wales_templates

Covid-19: Gwahoddiad am dystiolaeth ysgrifenedig
 Ymateb CBM Cymru 
 
 Amdanom ni
 
 Mae ein 37,000 o aelodau ar draws y byd, gan gynnwys 1,300 yng Nghymru, yn gweithio mewn ysbytai ac yn y gymuned ar draws 30 o arbenigeddau clinigol gwahanol, yn rhoi diagnosis ac yn trin miliynau o gleifion ag amrediad enfawr o gyflyrau meddygol, gan gynnwys strôc, gofalu am bobl hŷn, diabetes, cardioleg a chlefydau anadlol. Rydym yn ymgyrchu am welliannau i ofal iechyd, addysg feddygol ac iechyd y cyhoedd.
 
 Yng Nghymru, rydym yn gweithio’n uniongyrchol gyda byrddau iechyd a sefydliadau eraill GIG Cymru, gan gynnwys Addysg a Gwella Iechyd Cymru; rydym yn cynnal ymweliadau sgwrsio rheolaidd ag ysbytai lleol i gwrdd â’r cleifion a’r staff; ac rydym yn cydweithio â sefydliadau eraill i godi ymwybyddiaeth o heriau iechyd y cyhoedd.
 
 Rydym yn trefnu cynadleddau, digwyddiadau addysgu a gweithdai o safon uchel, sy’n denu cannoedd o feddygon bob blwyddyn. Mae ein gwaith gyda Chymdeithas y Meddygon yng Nghymru yn ceisio arddangos arfer gorau drwy gystadlaethau poster a gwobrau i hyfforddeion. Rydym hefyd yn cynnal aelodaeth lwyddiannus iawn CBM bob dwy flynedd a seremoni’r gymrodoriaeth i Gymru. 
 
 Er mwyn helpu i siapio gofal meddygol yng Nghymru yn y dyfodol, ewch i’n gwefan: 
 https://www.rcplondon.ac.uk/about-rcp/whos-who/people/cymru
 I roi eich barn i ni – neu i ofyn am wybodaeth bellach – anfonwch e-bost atom i: 
 wales@rcplondon.ac.uk
 Trydarwch eich cefnogaeth: 
 @RCPWales 
 
 I gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â:
 
 Uwch Gynghorydd Polisi ac Ymgyrchoedd (Cymru)

Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru

Tŷ Baltic | Baltic House

Sgwâr Mount Stuart Square

Caerdydd | Cardiff CF10 5FH

020 3075 1513

www.rcplondon.ac.uk/wales

 

seneddhealth@assembly.wales

 

12 Mai 2020

Covid-19: Gwahoddiad am dystiolaeth ysgrifenedig

 

Diolch i chi am y cyfle i ymateb i wahoddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am dystiolaeth ysgrifenedig ar Covid-19.  Defnyddiodd Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru ganlyniadau’r ddau arolwg a gynhaliwyd gennym a oedd yn edrych ar argaeledd Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) ac argaeledd profion i’n haelodau a’n cymrodyr, ein meddygon dan hyfforddiant a’n meddygon arbenigol, ac aelodau ein rhwydwaith gofalwyr cleifion yng Nghymru i gynhyrchu’r ymateb hwn.

 

Byddwn yn fodlon trefnu tystiolaeth ysgrifenedig neu lafar bellach pe byddai hynny’n ddefnyddiol.

                                                                               

Enw’r sefydliad:               Coleg Brenhinol y Meddygon (CBM) Cymru

Cyswllt arweiniol:           Uwch Gynghorydd Polisi ac Ymgyrchoedd (Cymru)

 

Ein hymateb

 

Cyflwyniad

 

Croesawn ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i COVID-19.

 

Fel sefydliad iechyd blaenllaw, sydd â’r nod o ganolbwyntio ar unigolion o dan arweiniad clinigol, mae ein haelodau’n ymrwymedig i gefnogi’r ymateb rhyngwladol i COVID-19 ac rydym yn gwneud cyfraniad i ymateb y GIG yng Nghymru.

 

Mae CMB wedi bod yn olrhain effaith COVID-19 ar glinigwyr rheng flaen yn ystod y pandemig drwy arolygon aelodaeth.  Cynhaliwyd y cyntaf o’r rhain ar 1-2 Ebrill[1], ac yna’r ail un ar 22-23 Ebrill .[2] Derbyniwyd 120 o ymatebion i’r ddau arolwg.

 

Byddwn yn cynnal trydydd arolwg rhwng 13-14 Mai gyda ffocws ar ailddechrau gwasanaethau nad ydynt yn rhai COVID-19.  Mae’r arolygon hyn, ochr yn ochr â’n hymgysylltiad parhaus gyda’n haelodau, wedi hysbysu’r dystiolaeth yn y cyflwyniad hwn.

 

Crynodeb

 

·         Bu gwelliannau yn y ffordd y cafodd y coronafeirws ei reoli yn ystod y mis diwethaf, gyda gostyngiad yn nifer yr absenoldebau staff a chynnydd yn y mynediad at brofion ar gyfer gweithwyr rheng flaen y GIG.  Ond mae ein hymatebwyr yn parhau i amlygu’r problemau clir sy’n parhau o ran mynediad at Gyfarpar Diogelu Personol (PPE) a mynediad at brofion ar gyfer aelodau aelwydydd gweithwyr y GIG.

 

·         Mae CBM Cymru yn bryderus bod y mynediad at PPE wedi gwaethygu, er gwaethaf ffocws cyhoeddus uwch ar y mater.  Gostyngodd y mynediad at PPE yn ystod mis Ebrill, gyda mwy na chwarter (27%) yr aelodau’n dweud na allent gael mynediad at y PPE angenrheidiol er mwyn rheoli cleifion coronafeirws ar ddiwedd y mis, o gymharu â 22% ar y dechrau.  Mae’r ffigurau hyn yn codi pryderon ynglŷn â lefel y diogelwch sy’n cael ei darparu i staff.

 

·         Mae’n rhaid cynyddu a sefydlogi’r cyflenwad o PPE er mwyn i bob gweithiwr gofal iechyd allu cael mynediad at y cyfarpar diogelu pan fydd eu hangen arnynt.  Dylai Llywodraeth Cymru fod yn agored a thryloyw gyda gweithwyr y GIG ynglŷn â’r heriau a wynebwyd wrth geisio cael gafael ar PPE – wrth wneud popeth yn eu gallu i gyfeirio’r cyflenwadau i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.

 

Argymhellion:

 

·         Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i gaffael PPE a sefydlogi logisteg er mwyn sicrhau na fydd unrhyw staff y GIG a staff gofal cymdeithasol heb y lefelau priodol o PPE pan fyddant eu hangen.

 

·         Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i ddatblygu’r mynediad at brofion i sicrhau bod aelodau aelwydydd staff y GIG yn gallu cael mynediad at brofion.  Mae’n rhaid canolbwyntio hefyd ar wella’r amseroedd ar gyfer cynhyrchu’r canlyniadau.

 

·         Dylai Llywodraeth Cymru geisio parhau i feithrin ymddiriedaeth gyda’r gweithwyr proffesiynol drwy fod yn agored a thryloyw ynglŷn â’r heriau parhaus.

 

·         Dylai Llywodraeth Cymru geisio dysgu’r gwersi o’r ychydig fisoedd diwethaf a gweithio gyda’r gweithwyr proffesiynol i sicrhau eu bod yn gweithredu ar yr hyn a ddysgwyd wrth symud ymlaen.

 

Pa mor llwyddiannus y mae Cymru’n delio â’r achosion

 

Profi a’r gweithlu

 

·         Mae’r mynediad at brofion wedi gwella ers ein harolwg cyntaf, gyda 93% o’n haelodau â symptomau yn dweud eu bod wedi gallu cael mynediad at brofion ar gyfer eu cleifion a 91% ar eu cyfer hwy eu hunain (cynnydd o 26%). Pan oedd profion ar gael, canfuom fod yr amser ar gyfer cynhyrchu’r canlyniadau yn amrywio o 24 awr i wythnos i’r aelodau.  Felly, mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i weithio i gynnal profion rheolaidd gyda chanlyniadau amserol ar gyfer pob un o weithwyr y GIG yng Nghymru.

 

·         Mae ein harolygon yn dangos bod angen gwneud mwy i gynyddu argaeledd profion i bobl sy’n byw gyda gweithwyr rheng flaen y GIG.  Dywedodd 31% nad oeddent yn gallu cael mynediad at brawf ar gyfer aelod o’u haelwyd sy’n arddangos symptomau.  Gallai gwybod a oes gan aelodau aelwyd y coronafeirws wneud y gwahaniaeth o ran a all gweithiwr rheng flaen y GIG ddychwelyd i’r gwaith neu hunan-ynysu o bosibl am 14 diwrnod heb gadarnhad o ddiagnosis.  Mae angen i’r rhai â symptomau neu sy’n byw gydag aelod o’r aelwyd sy’n arddangos symptomau wybod cyn gynted â phosibl a ddylent orffwyso neu ddychwelyd i’r gwaith. 

 

·         Gallai’r cynnydd yn nifer y profion fod wedi lleihau’r nifer o bobl sydd i ffwrdd o’u gwaith oherwydd yr amheuir bod ganddynt COVID-19 yn ystod mis Ebrill.  Dywedodd llawer o aelodau bod effeithiau negyddol posibl absenoldebau staff yn eu timau wedi’u lliniaru drwy adleoli staff.  Dywedodd mwy na chwarter (29%) o glinigwyr wrthym eu bod yn gweithio mewn maes meddygaeth sy’n wahanol i’w harbenigedd arferol.

 

·         Mae gwyliau blynyddol wedi’u canslo neu eu gohirio mewn rhai Byrddau Iechyd.  Nid yw’r atebion tymor byr hyn yn gynaliadwy wrth i’r GIG ddechrau ail-agor ac annog y cyhoedd i ddod ymlaen i gael triniaeth ar gyfer canser, trawiadau ar y galon, strociau neu gyflyrau iechyd meddwl.  Er bod pob ardal wedi paratoi ar gyfer cynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19, mae’r feirws wedi effeithio ar wahanol rannau o Gymru yn fwy nac eraill.  Mae hyn yn golygu, mewn rhai ardaloedd, lle mae gwasanaethau craidd wedi lleihau ond bod nifer y cleifion COVID-19 wedi bod yn gymharol isel, mae’r adnodd staff yn gryfach na’r arfer.

 

·         Wrth i ni ddechrau ailddechrau ac ailosod gwasanaethau nad ydynt yn rhai COVID-19, mae’n bwysig ein bod yn ymgorffori amser a gofod i staff wella, adfer ac adlewyrchu, a hefyd cynllunio ar gyfer sut y bydd lefelau staffio yn cael eu heffeithio gan gynnydd yn nifer y cleifion nad ydynt yn rhai COVID-19 wrth i’r angen i drin y feirws barhau.

 

·         Er bod lefelau staffio wedi bod yn broblem mewn ardaloedd â nifer uwch o achosion, un o effeithiau mawr eraill absenoldebau staff yw’r effaith ar forâl timau, wrth i weithwyr rheng flaen y GIG boeni a fydd eu ffrindiau a’u cydweithwyr sy’n absennol o’r gwaith gyda salwch, gyda choronafeirws wedi’i gadarnhau neu a amheuir, yn gwella.  Dywedodd llawer o ymatebwyr bod absenoldeb aelodau o staff wedi pwysleisio pwysigrwydd mynediad cyson at PPE fel y dull gorau i helpu i ddiogelu staff rhag dal y feirws yn yr achos cyntaf.

 

Cyfarpar Diogelu Personol

 

·         Mae’n peri pryder bod argaeledd PPE wedi gwaethygu yn ystod mis Ebrill, gyda mwy na chwarter (27%) o aelodau CBM yn dweud nad oeddent wedi gallu cael gafael ar y PPE angenrheidiol i reoli cleifion y coronafeirws ddiwedd mis Ebrill, o gymharu â 22% ar ddechrau’r mis.  Dim ond hanner y meddygon a arolygwyd oedd wedi cael mynediad cyson at gogls diogelu.  Dywedodd 49% nad oedd ganddynt fynediad bob amser at feisor wyneb llawn ac ni allai 30% gael mynediad bob amser at ŵn llewys hir os oeddent yn gweithio mewn ardaloedd gweithdrefnau sy’n cynhyrchu aerosol risg uchel.

 

·         Roedd rhai aelodau o staff wedi dechrau chwilio am eu heitemau eu hunain o PPE, er enghraifft masgiau neu sgrybs oherwydd eu pryderon y bydd stociau swyddogol yn dod i ben, gyda 17% yn ailddefnyddio PPE oherwydd prinderau.  Mae hyn yn ategu canfyddiadau Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) bod ychydig dros draean o feddygon ysbytai yn dweud eu bod wedi chwilio am eu PPE eu hunain at ddefnydd personol neu adrannol neu eu bod wedi dibynnu ar roddion[3]. Mae’n rhaid i feddygon allu canolbwyntio ar drin cleifion gyda COVID-19 yn ddiogel, gan wybod bod y PPE sydd ei angen arnynt yno pan fyddant ei angen.

 

·         Bydd PPE ond yn effeithiol pan fydd yn ffitio’n briodol, felly mae’n peri pryder nad oedd 21% wedi’u mesur i’w ffitio neu nad oeddent wedi gallu cael mynediad at wasanaeth mesur ar gyfer eu PPE.  Ni ddylai clinigwyr orfod dewis rhwng diogelu eu hiechyd hwy eu hunain neu iechyd eu cleifion. Mae’n rhaid mesur a gwirio er mwyn diogelu staff yn briodol.

 

·         Os yw masgiau’n cael eu hailddefnyddio bydd hyd yn oed yn fwy pwysig sicrhau bod profion ffitio yn cael eu cynnal i ddiogelu staff.  Mae CBM wedi bod yn annog ein haelodau i gael partner PPE wrth wisgo a dadwisgo PPE er mwyn sicrhau y gwneir hynny’n gywir er mwyn lleihau’r risg.  Mae’r BMA wedi mynegi pryderon ynglŷn â’r problemau ychwanegol sy’n wynebu merched wrth geisio sicrhau bod eu masgiau PPE yn ffitio’n ddiogel.[4]

 

·         Er y gyfran uchel o glinigwyr benywaidd sy’n gweithio yn y GIG,[5] mae masgiau PPE wedi’u cynllunio ar gyfer fframiau gwrywaidd yn bennaf.[6][7] Dywedodd un aelod o CBM wrthym eu bod ond wedi pasio’r prawf ffitio pan oedd y masg wedi’i osod yn dynn iawn – rhywbeth yr oeddent yn poeni na allant ei ailadrodd mewn sefyllfa frys.

 

·         Mae masgiau PPE afloyw hefyd yn cyflwyno problemau i weithwyr gofal iechyd, cleifion a gofalwyr sy’n fyddar neu sy’n colli eu clyw, tra bod cyflau gydag anadlyddion sy’n dryloyw wedi’u defnyddio gydag adborth cadarnhaol gan y rhai sy’n eu gwisgo a chleifion mewn rhai ysbytai.  Byddai CBM yn annog timau caffael y Llywodraeth i geisio ehangu’r detholiad o gyfarpar PPE maent yn eu prynu, gyda’r nod o sicrhau bod gan bob aelod o weithlu’r GIG y PPE sydd ei angen arnynt[8].

 

·         Awgrymodd yr aelodau bod cyfathrebu da ynglŷn ag argaeledd PPE yn hollbwysig.  Mae angen i Lywodraeth Cymru ‘weithio gyda’r sector’ ar negeseuon er mwyn sicrhau hyder.

 

Prinder meddyginiaethau a defnyddiau traul

 

·         Fe wnaethom holi ein cymrodyr a’n haelodau hefyd ynglŷn â mynediad at feddyginiaethau, ocsigen a defnyddiau traul.  Gofynnwyd a oedd y prinderau hyn yn newydd (ers COVID-19) neu’n bodoli cyn hynny.

 

·         Dywedodd 23% bod prinderau defnyddiau traul ers COVID-19, o gymharu â 3% cyn y pandemig. Nodwyd prinderau newydd hefyd o ran meddyginiaethau ar gyfer cleifion mewnol (17% o gymharu â 9%) a chleifion allanol (12% o gymharu ag 11.5%).

 

·         Mae’n hollbwysig bod y llif o feddyginiaethau a defnyddiau traul ar gael i staff a chleifion y GIG pan fydd eu hangen.

 

Ymateb byrddau iechyd

 

·         Mae angen gwerthuso’r arloesedd a welwyd yn ystod y cyfnod hwn wrth i gynlluniau gael eu datblygu er mwyn dychwelyd i GIG Cymru ‘busnes fel arfer’.  Bydd angen i Addysg a Gwella Iechyd Cymru ystyried meddygon dan hyfforddiant sydd wedi’u hadleoli o’u hyfforddiant arbenigedd arferol a bydd angen iddynt ddychwelyd ato.

 

·         Er nad yw rhai pethau – megis adleoli staff – yn gynaliadwy yn yr hirdymor, gallai datrysiadau eraill ar gyfer rheoli’r achosion o COVID-19, gan gynnwys apwyntiadau rhithwir ac ymgynghoriadau digidol fod yr un mor fuddiol wrth i ni symud ymlaen.

 

·         Ym mis Rhagfyr 2019 canfu arolwg o aelodau CBM bod llai na 10% o’r ymatebwyr wedi cynnal mwy na 4% o’u hymgynghoriadau cleifion allanol drwy fideo yn yr wythnos ddiwethaf[9].  Ond mae cadw pellter cymdeithasol wedi gorfodi mwy o glinigwyr i ymgorffori dulliau cyfathrebu digidol yn gyflym i’w harfer – gydag ymateb cadarnhaol ar y cyfan gan y staff.  Gallai ffyrdd newydd o weithio fod yn elfen bositif o’r pandemig.

 

Adsefydlu

 

·         Yn rhai o’r achosion mwy difrifol o COVID-19 bydd adferiad yn golygu’r angen am wasanaethau adsefydlu.  Mae’n rhaid cydnabod bod adsefydlu yn rhan hollbwysig o adferiad COVID-19, a bydd angen i arweinwyr a llunwyr polisi gymryd camau gweithredu brys i sicrhau bod hynny’n cael ei gyflawni.

 

·         Mae angen dull gweithredu strategol cynhwysfawr er mwyn cyflawni anghenion adsefydlu wrth i ni weithio i helpu’r ymdrechion o adfer o’r pandemig.

 

Diogelwch cleifion a staff

 

Effaith COVID-19 ar gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME)

 

·         Mae data wedi dangos i ni fod 94% o’r meddygon sydd wedi marw o COVID-19 o gefndiroedd pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME).  Mae CBM wedi galwn ddiweddar am asesiad risg unigol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd mewn meysydd or fath yn sgil y broblem frawychus hon.[10]

 

·         Felly, mae CBM yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymchwilio i pam fod nifer uchel o bobl o gefndiroedd BAME yn marw o’r feirws.  Gorau po gyntaf i ni gael mwy o fanylion am yr ymchwiliad a phryd y caiff ei lansio.

 

Hyfforddiant, Addysg ac ymchwil

 

·         Yn ystod y pandemig mae llawer o hyfforddeion wedi bod yn gweithio mewn rotâu brys.  Mae angen symud hyfforddeion i restrau dyletswyddau ‘arferol’ cyn gynted â phosibl.  Mae angen i ni wneud yn siŵr hefyd bod pobl yn cael amser digonol i orffwys ac adennill nerth yn dilyn y ddau fis diwethaf.

 

·         Mae angen i ni ddychwelyd ein hyfforddeion academaidd clinigol yn ôl i’w meysydd ymchwil a chwilio am ffyrdd i estyn eu hamser yn yr ymchwil er mwyn sicrhau nad ydynt o dan anfantais.  Mae gofal gwell i gleifion yn fwyaf tebygol o gael ei gyflawni mewn unedau lle mae clinigwyr yn cyfranogi mewn ymchwil.  Mae angen diogelu’r amser ar gyfer hyn ac mae angen ymrwymiad i fuddsoddi mewn niferoedd cynyddol o fyfyrwyr meddygol yng Nghymru.

 

·         Mae’n bwysig estyn cyfleoedd hyfforddiant i feddygon a galluogi datblygiad gyrfaoedd hyblyg, gyda’r nod o ehangu a chreu’r gweithlu modern a fydd yn darparu gofal unffurf o ansawdd uchel ar draws Cymru gyfan.

 

Iechyd a llesiant staff

 

·         Mae symud gwahanol rannau o’r gweithlu wedi bod yn un o lwyddiannau’r ymateb i’r pandemig.  Mae angen ailddosbarthu’r gweithlu’r estynedig hwn ar gyfer y cam nesaf ac mae hyn yn creu rhai problemau.

 

·         Dangosodd ein harolwg nad yw tua thraean (29%) o feddygon yn gweithio yn eu meysydd clinigol arferol.  Bydd angen ailddyrannu staff yn ofalus.  Mae’n rhaid i ni fod yn ystyriol y bydd angen amser ar weithwyr gofal iechyd i adfer ac mae angen i ni fod yn siŵr y bydd gofynion y don gyntaf wedi lleihau digon i sicrhau capasiti priodol ar gyfer pob arbenigedd.

 

·         Staff yn cael eu hadleoli i faes meddygaeth acíwt a meysydd eraill, roedd 41% o’r rhai a oedd yn gweithio y tu allan i’w harbenigedd o’r farn nad oeddent yn derbyn digon o gefnogaeth yn seicolegol ac emosiynol.  Mae’n hollbwysig peidio â thanamcangyfrif effaith COVID-19 a gweithio mewn meysydd newydd a bod llesiant staff yn cael ei ddiogelu.  Mae’n rhaid i ni gymryd gofal hefyd wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol, er mwyn sicrhau y gall staff gael amser i ffwrdd ac adfer yn dilyn cyfnodau o weithgareddau yn y dyfodol.

 

·         Rydym yn croesawu’r camau a gymerwyd hyd yma i gefnogi iechyd a llesiant meddyliol gweithwyr iechyd y rheng flaen.  Mae’n bwysig peidio â thanamcangyfrif effaith COVID-19 ar iechyd a llesiant meddyliol meddygon a’r effaith ddilynol ar allu’r GIG i ddelio â’r achosion.

 

·         Er nad yw staff yn absennol o’r gwaith eto o ganlyniad i hyn, bydd llawer yn profi anawsterau iechyd meddwl dealladwy.  Roedd 41% o’r rhai a oedd yn gweithio mewn maes clinigol gwahanol i’r arfer o’r farn nad oeddent wedi derbyn digon o gefnogaeth seicolegol neu emosiynol.  Dangosodd arolwg arall i’r IPPR bod 50% o weithwyr gofal iechyd wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu ers i’r feirws ddechrau[11]. Mae’n rhaid i amser i ffwrdd i staff y GIG a staff gofal cymdeithasol orffwys ac adennill nerth fod yn rhan o unrhyw gynllun y Llywodraeth i ‘ailddechrau’ gwasanaethau craidd y GIG yng Nghymru.

 

·         Mae’r mesurau sydd wedi’u gweithredu ar gyfer llesiant ar draws pob bwrdd iechyd ar gyfer y cam acíwt wedi’u croesawu.  Mae tystiolaeth yn dangos y gall meddygon fod yn eu swyddi am rhwng tair a phum mlynedd, a gall hyn arwain weithiau at straen ar eu hiechyd a’u llesiant.  Mae angen buddsoddiad tymor hwy yn y maes hwn ac mae CBM yn cynhyrchu cynllun mapio Llesiant.

 

 

Y gweithlu rhyngwladol

 

·         Fe gomisiynodd CBM YouGov yn ddiweddar i gynnal arolwg barn.  Mae’r canlyniadau’n dangos cefnogaeth gyhoeddus glir i gydnabod cyfraniadau staff y GIG a staff gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio yn ystod y pandemig coronafeirws.

 

·         Roedd chwedeg saith y cant o’r ymatebwyr o’r farn y byddai’n annhebygol y byddai’r GIG wedi gallu mynd i’r afael â’r coronafeirws heb staff rhyngwladol, ac roedd 55% o’r farn y dylai staff rhyngwladol sydd wedi gweithio yn y GIG yn ystod y pandemig coronafeirws gael yr hawl i aros yn y DU yn barhaol.

 

·         Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i lawer o bobl sy’n dod i weithio yn y DU dalu ffi flynyddol ymlaen llaw (Gordal Iechyd y GIG) er mwyn bod yn gymwys i ddefnyddio’r GIG yn ogystal â thalu ei ffioedd fisa.  Dangosodd arolwg Today bod 59% o’r cyhoedd o’r farn na ddylai staff rhyngwladol y GIG a gofal cymdeithasol orfod talu tâl blynyddol i ddefnyddio’r GIG.

 

·         Datgelodd yr arolwg hefyd werthfawrogiad aruthrol y cyhoedd am staff rhyngwladol y GIG a gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio drwy’r pandemig COVID-19, gyda 66% ohonynt yn galw i’r llywodraeth gydnabod eu cyfraniadau amhrisiadwy yn gyhoeddus.

 

·         Mae CBM wedi galw ar y llywodraeth i greu cytundeb newydd ar gyfer staff rhyngwladol y GIG a gofal cymdeithasol, sy’n cydnabod eu rôl hollbwysig yn yr ymateb rheng flaen i COVID-19 a’r rhan bwysig y byddant yn parhau i’w chwarae yn y dyfodol.

 

·         Mae’r cytundeb newydd arfaethedig yn cynnwys tri chais:

 

o   Y dylai pob aelod o staff y GIG a gofal cymdeithasol, a’u priod a’u dibynyddion, gael eu heithrio o’r Gordal Iechyd Rhyngwladol.

 

o   Y dylai pob aelod o staff y GIG a gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio yn ystod y pandemig, a’u priod a’u dibynyddion dderbyn caniatâd amhenodol i aros.

 

o   Y dylai Fisa arfaethedig y GIG gael ei ymestyn i staff gofal cymdeithasol.

 

Beth yr ydym yn ei wneud

 

·         Mae CBM yn parhau i godi materion sy’n bwysig i’n haelodau, gan gynnwys y cyflenwad o PPE a mynediad at brofion ar bob cyfle sydd ar gael.  Mae Is-lywydd CBM Cymru, Dr Olwen Williams, yn parhau i weithio’n agos gydag arweinwyr cenedlaethol GIG Cymru ar draws y DU, gan gynnwys y Prif Swyddogion Meddygol a chyfarwyddwyr meddygol cenedlaethol.

 

·         Byddwn yn parhau i gefnogi ein haelodau gyda mynediad at ddeunyddiau datblygu, adnoddau llesiant ac arweiniad.

 

Tystiolaeth bellach

 

Fel rhan o’n tystiolaeth rydym hefyd yn cyflwyno adroddiadau ac argymhellion canlynol CBM Cymru i’w hystyried.  Mae pob un ohonynt ar gael isod neu ar ein gwefan.

 

·         Arolwg o gymrodyr ac aelodau ynglŷn ag effaith COVID-19 (2020)

·         Amser ar gyfer ymchwil: Darparu gofal arloesol i gleifion yng Nghymru (2019)

·         Gwneud pethau’n wahanol: Cefnogi meddygon iau yng Nghymru(2019)

·         Teimlo’r straen: Gofal i gleifion mewn GIG sydd dan bwysau yng Nghymru (2017)

·         Meddygon ar y rheng flaen: Y gweithlu meddygol yng Nghymru yn 2016 (2016)



[1] CBM  (2020) arolwg cyntaf aelodauynghylch effaith y Coronafeirws

[2] CBM (2020) ail arolwg aelodauynghylch effaith y Coronafeirws

 

[3] CBM  (2020) https://www.bma.org.uk/media/2407/bma-covid-19-survey-results-for-hospital-doctors-4-may-2020.pdf t12

 

[5] RCNI (2019) ‘PPE one size fits all design is a fallacy that’s putting female health staff at risk’.

[6] Cyflogwyr GIG Cymru (2019) Gender in the NHS

[7] TUC (2016) ‘Personal protective equipment and women’ t4; Dr Helen Fidler yn y Guardian, Ebrill 2019.

[8] CPR, personal protective equipment and COVID-19

[9] RCP (2019) https://www.rcplondon.ac.uk/news/survey-reveals-barriers-providing-good-care-and-confidence-new-solutions

[10] asesiad risg unigol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd

[11] IPPR (2020) Care Fit for Carers, t12.